Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

[sef y Swdaniaid] nid yn unig ei chadw [sef Cartŵm], ond hefyd y cadwant allan ohoni y giwed Ewropeaidd sydd ymron i gyd yn ennill eu bywoliaeth trwy gadw diotai ac ufferndai, tan nawdd y galluoedd "Cristionogol "; ac felly yn llygru pobl foesolach a deallusach na hwy eu hunain. (Gyda Ilaw, paham na ddylai'r Cartwmiaid hefyd gael local option?) Ac os ydyw'r Proffwyd Arabaidd yn awyddus i lesáu cenhedloedd wedi eu melltithio â "gwareiddiad," hynny ydyw, rhai wedi eu dysgu i bechu mewn modd scientific a sanctimonious, yr wyf yn disgwyl y bydd iddo ddanfon i Gymru a Lloegr ychydig ugeiniau o genhadon i'n dysgu i fyw yn syml, yn sobr, ac yn onest. Dangosed i'r Saeson nad yw dal yn gaeth bersonau ddim cynddrwg yn y diwedd â dal yn gaeth genhedloedd; a dangosed i'r cadlywyddion a'r milwyr Gwyddelig beth mor chwithig yw eu gweled hwy, yn anad pawb, yn ymladd rhyfeloedd y Saeson—y byddai'n llai o ddrwg iddynt, o'r ddau, ymddifyrru mewn siglo Tŵr Llundain â dynamit nag ymogoneddu mewn anrheithio'r Swdân. Gwneled ef a'i ddilynwyr a wnelont, yr wyf i'n dymuno llwydd ar eu harfau hwy, ac ar arfau pawb y gorfyddo arnynt amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn gormeswyr, fel yr argyhoedder yr holl bobloedd, yn Gristionogion, yn