Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o hawl i ddibrisio ei bywyd ei hun nag sydd gan berson i ddibrisio ei fywyd yntau.

***


Swm yr hyn a ddywedwyd ydyw bod y genedl, fel y teulu, yn gysegredig; a'i bod, fel y teulu, wedi ei hordeinio gan Dduw i ddysgu dyn. Fel y mae'r teulu wedi ei ordeinio i ddysgu dyn i garu ychydig yn lle un, sef efe ei hun, felly y mae'r genedl wedi ei hordeinio i ddysgu dyn i garu llawer yn lle ychydig; nad ydyw'r teulu a'r genedl amgen na dwy ris i'w gynorthwyo i esgyn oddi wrth hunangarwch at ddyngarwch, sef cariad cyffredinol; mail priod iaith ydyw prif nod cenedl, a'r etifeddiaeth werthfawrocaf a ymddiriedwyd iddi gan y tadau; ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, yn enwedig yr eiddo cenhedlig hwn, ei fod yn waeth na'r di-ffydd. Pe gwyddwn fod y dywediad yn rhy gryf gan rywun, mi allwn rywbryd eto ei gadarnhau â thystiolaethau rhai o brif ddiwinyddion ac athronyddion ac addysgwyr y byd. Chwi a wyddoch fod y fath beth yn bod â Moesoldeb Cymdeithasol; ac ymhob llyfr o fri sy'n ymdrin â hynny fe ddywedir bod dysgu'n dda ein hiaith ein hunain yn ddyletswydd foesol—ïe, yn ddyletswydd grefyddol, nad ydyw hi'n ail i un ddyletswydd arall.

ALLAN O'R Faner, CHWEFROR 27, 1895.