Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i Lyfrau," ac y mae'r rhestr honno, er gwerth-fawroced yw (ac yr wyf yn dra dyledus iddi), ymhell o fod yn gyflawn. Y mae llaweroedd o bethau pwysig eto heb weled print o gwbl: hwyrach mai'r pwysicaf ohonynt yw llyfr o'i weddïau sy'n haeddu ei ystyried yn un o glasuron defosiynol y Gymraeg.

Gan hynny, y mae gofyn egluro pwrpas y gyfrol bresennol. Y mae traethodau Emrys yn amrywiol iawn. Ceir beirniadaeth lenyddol ganddo ar awduron a llyfrau Cymraeg a Ffrangeg. Ymdrinia'n aml â phynciau crefyddol, yn enwedig â lle'r iaith Gymraeg mewn addoli, ac fe sgrifennodd hefyd ar bynciau amrywiol megis ar broblem yr orgraff, ac ar ddulliau dysgu iaith. Y mae'r cwbl yn bwysig ac yn ddiddorol i'r eithaf, ac os bydd derbyniad i'r gyfrol hon fe fwriedir yn y man, gyhoeddi detholion eto o'r ysgrifau hyn, sef Ysgrifau Llenyddol, Ysgrifau Crefyddol, ac efallai Ysgrifau Amrywiol. Dealler nad o'r meysydd hyn y casglwyd yr ysgub bresennol.

Detholiad yw'r llyfr hwn, a detholiad bychan yn unig, o'r traethodau a'r llythyrau hynny a gyhoeddwyd gyntaf yn y Faner a'r Geninen, ac sy'n amlygu neges Emrys ar bynciau cymdeithasol a gwladgarol, ynghyd â'i allu i groniclo hanes. Gan fod y neges