Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae'r wlad honno'n ddyledus i Franklin am gadw ei rhyddid trwy yr unrhyw foddion ag yr enillwyd ef iddi, sef trwy bamffledau, newyddiaduron, cyhoeddusder. Yr ydys yno yn argraffu popeth. Nid ys yn esguso dim twyll, boed ef swyddogol: nid ys yn twyllo'r bobl, am nad oes yno neb â chanddo awdurdod i gelwyddu, ac i ostegu pob gwrth-ddywedwr. Ni wna'r wasg nemor o ddrwg, ond hi a etyl lawer o ddrwg. Y mae dalennau argraffedig wrth amredeg bob dydd, a hynny'n helaeth, yn rhoi addysg rad a buddiol i laweroedd. Y mae agos pawb yn darllen y newyddiaduron, a gallai'r rhan fwyaf ysgrifennu iddynt hefyd, pe dysgent yn unig fynegi eu meddwl yn olau ac i'r perwyl. Nid rhinwedd gyffredin yn ddiau yw crynoder; nid peth hawdd yw cau llawer o synnwyr o fewn ychydig o eiriau. O! mor amheuthun yw dalen lawn mewn llyfrau! A chyn lleied o ddynion sy'n alluog i ysgrifennu deg dalen heb ffregod! Yr oedd yn anhawddach gwneuthur llythyr lleiaf Pascal na'r holl Encyclopédie. . .

Ni chadarnheir unrhyw wirionedd heb ferthyron, namyn y rhai y mae Euclid yn eu haddysgu. Yn unig trwy ddioddef oblegid ei syniadau y gall ddyn ddarbwyllo; ac am hynny y dywedodd Paul mewn effaith: Credwch fi, canys yr wyf yn fynych yng ngharchar. Pe buasai ef wedi byw yn esmwyth, ac wedi elwa ar yr athrawiaeth yr oedd yn ei phregethu, erioed ni seiliasai grefydd Crist. Tydi, gan hynny, Paul-Louis, winllanwr, yr hwn yn unig yn dy wlad sy'n foddlon