Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneuthur pob cyfiawnder â thi, ond it addef fy awdurdod. Nid oes gennyt achos i gwyno hyd yn oed yn awr. Y mae rhai o'th feibion yn llenwi swyddau anrhydeddus yn fy nhŷ ac ar fy ystâd. Y mae un ohonynt yn ben cogydd, un arall yn ben cerbydwr, dau ohonynt yn geidwaid nid anenwog ar fy helwriaeth, ac nid oes dim ond dy gyndynrwydd ynfyd yn dy atal dithau rhag ymgymhwyso i fod yn ben goruchwyliwr ar fy holl feddiannau. What would'st thou have? My stars, pe rhoddid i Taffi hanner y ffafrau a roddir i ti, âi'n wallgof gan lawenydd!

TAFFI: O! fy meistr annwyl, pa beth a ddywedaf, pa fodd y traethaf fy niolch am eich cyfeiriad caredig at eich poor Taffi? Atolwg, gwnewch â mi fel y gweloch yn orau, canys gwyddoch pa rai ydyw fy anghenion yn well nag y gwn fy hun. Ni wrthodaf ddyrchafiad, ond os bernwch y gwnâi ddyrchafiad niwed im, yr wyf yn eithaf boddlon i barhau yn wastrodyn am byth. Na ato Bob Acres i mi frygawthan ynghylch fy "hawliau" priod, a dirwasgu ffafrau allan ohonot yn ôl dull Paddy.

PADDY: Och fi, Taffi, y mae'n chwith gennyf dy weled mor wasaidd. Mor wahanol wyt yn awr i'r hyn oeddit cyn llarpio o Mr. Bully dy fab, Llywelyn! Oni buasai fy mod yn gwan—obeithio y bydd yn dda