Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Syniai'r werin gynt mai'r peth cyfiawnaf oedd y peth buddiolaf hefyd yn y pen draw—eithr profed y cystadleuydd fod y syniad yna'n anghywir; neu profed o'r hyn lleiaf, fod budd uniongyrchol a theimladwy ar y budd na byddo felly. Haered (nid rhaid iddo ymdrafferthu i brofi), haered, meddaf, nad yw ymlyniad cenedl wrth ei hiaith briodol yn ddim amgen na "rhagfarn" a clannishness. Er enghraifft, culni ysbryd sy'n peri i Gymro siarad Cymraeg yn hytrach na Saesneg; pe bai'n rhyddfrydig fe fwriai heibio ei iaith ei hun ac a fabwysiadai iaith y Saeson. Y mae ysbryd gwir ryddfrydig yn dysgu dyn i garu gwraig ddieithr yn fwy na'i wraig ei hun, i fawrygu cenedl elynol yn fwy na'i genedl ei hun, ac i ddewis iaith estronol yn lle ei iaith ei hun. Y mae'n wir na fynn y Saeson newid eu hiaith er dim, ie, ni fynn y rhan fwyaf ohonynt gymaint â chwanegu iaith estronol at eu hiaith eu hunain. Ond er mai hwy ydyw un o'r ddwy genedl fwyaf uniaith yn Ewrop, eto ni byddai'n foneddigaidd i Gymro eu galw hwynt yn clannish nac yn rhagfarnllyd: yn un peth am eu bod wedi achub y blaen arnom trwy fwrw'r geiriau yna i'n hwynebau'n gyntaf; a pheth arall, am mai hwynt—hwy yw ein harglwyddi—ein duwiau a ddylaswn ddweud. Y mae gennym ni'r Cymry bob hawl i'n gwaradwyddo ein hunain â phob rhyw enw