Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2. Ni chaniateir i neb manylaidd ei feddwl 'chwaith ymgystadlu arno rhag ofn iddo fyned i'w drin yn hanesyddol, yn athronyddol, ac yn anianyddol, yn ôl dull Marsh, Müller, Menzel, Carpenter, ac eraill.

3. Bydd yn rhydd i blant Cymreig brofi bod y Gymraeg yn anfanteisiol, cystal ag y gallont yn Gymraeg, ac ni chaeir hwynt allan o'r gystadleuaeth hyd yn oed os digwydd iddynt wybod tipyn o Saesneg.

4. Y mae'n rhydd i Saeson o bob oedran ymgystadlu os medrant brofi na wyddant un iaith heblaw'r Saesneg; eithr rhaid i'r ymgeiswyr Cymraeg fod naill ai yn eu plentyndod cyntaf, neu yn eu hail blentyndod.

5. Anfoner yr ysgrifeniadau trwy swyddfa'r Faner i ysgrifennydd "Cymdeithas yr Unieithogion," erbyn dydd Nadolig y flwyddyn hon. Cyhoeddir y traethawd gorau yn y Boy's Own Paper.

Y rhai hyn fydd y beirniaid: —Edward Levy Lawson, Esq., Daily Telegraph Office, London, author of "British Interests in the Moon," "Russian Intrigue, Affghan Treachery and Irish Ungratefulness," "Welsh Clannishness," &c. Richard Johnny David, Esq., author of "They Tuty of Welshmen