Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anifail mwy ariannog, ond hefyd am ei fod yn anifail mwy didoriad, a bod yn rhaid gan hynny wrth fwy o amynedd i'w oddef. Gwelent mai syniad isel sy gan yr Ellmyn a'r Yswisiaid a'r Yswediaid am y Côd Addysg a luniwyd gan fasnachwr uniaith ac annysgedig a'i enw Forster, ac a adluniwyd gan ddynion sydd agos mor annysgedig ag yntau. Trwy dreulio rhai blynyddoedd ar y Cyfandir, fe ddysgent synio'n uwch am eu hen lenoriaeth eu hunain, ac yn is am lenoriaeth ddiweddar y Saeson.[1] Gwelent ohonynt eu hunain nad oes, ac na bu, cymaint ag un athronydd yn Lloegr, nad yw ei diwinyddion gorau yn yr oes hon ond corrod yn ymyl diwinyddion dwy o deyrnasoedd lleiaf Gogledd Ewrop, nad yw ei hesboniadau gorau ond lled-gyfieithiadau o esboniadau'r Almaen a'r Iseldir, nad yw ei geiriaduron helaethaf ond efelychiadau amherffaith o eiriaduron Ffrainc, ac nad yw ei dramodau mwayf poblogaidd ond cyfaddasiadau o ddramodau gwaelaf Ffrainc a'r Eidal, yr Ysbaen a'r Yswèd. Y mae'r Saeson yn cyniwair ymhell ac yn agos; er hynny, nid oes ganddynt, yn ôl eu tystiolaeth eu hunain, ddim un map nac un fforddiadur y gellir dibynnu arno. Cymerwn

  1. "English science can now boast of but very few noted living names any more than can English literature."—Daily Chronicle, September 12, 1895.