Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyn gweld gwrthuni ein hymddygiad, dych— mygwn fod y Saeson yn ymddwyn tuag atom ni fel yr ydym ni yn ymddwyn tuag atynt hwy. Dych— myger eu bod ynghanol Lloegr yn troi cyfarfod yn Gymraeg neu yn hanner Cymraeg o achos bod yno ddau neu dri o Gymry uniaith yn ddigon hy i weiddi "Cymraeg, Cymraeg." Dychmygwn eu bod yn dewis Cymro uniaith i'w cynrychioli yng Nghaint neu yn Ynys Wyth, a'u bod yn llefain, Clewk, Clewk, wrth wrando ar y cyfryw gynrychiolydd yn traethu yng Nghymraeg llydan Sir Fôn ar y priodoldeb o roi ychydig o le i iaith a llenoriaeth Saesneg yn athrofeydd Caergrawnt a Rhydychen. Dychmygwn fod barnwyr ac ynadon Lloegr gan mwyaf yn Gymry heb fedru dim Saesneg, a bod y rhai sydd yn medru Saesneg yr un ffunud yn mynnu siarad yn Gymraeg; fod y dadleuwyr, wrth erlyn ac amddiffyn, yn apelio at y barnwyr a'r rheithwyr yn Gymraeg, ac yn gwastraffu amser i holi'r tystion trwy gyfieithydd. Dychmygwn fod trigolion St. Albans neu Clackton-on-Sea yn codi eglwys a phedwar capel ar gyfer ymwelwyr Cymreig a theulu neu ddau o breswylwyr Cymreig, ynghyd â dwsin o Saeson sydd wedi colli eu Saesneg wrth werthu llefrith, cwrw, cennin neu bysgod i'r Cymry hynny. Dychmygwn fod athrawon ysgolion Lloegr yn