Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nghymru, a pha un ai'r Gymraeg ai'r Saesneg sydd i fod yn iaith ysgolion a chynghorau a swyddfeydd a llysoedd barn Cymru.

Ar ôl dangos pa fath un yw'r Cymro Cymreig, yr wyf o'r diwedd yn dyfod at y gofyniad a roddwyd imi, sef, Paham y gorfu'r Undebwyr yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf? Yr wyf yn ateb yn fyr ac yn bendant mai am eu bod yn Undebwyr. Y mae'n hawdd gennyf gredu bod a wnelo Deddf Gwaharddiad Lleol ychydig bach â'r gorchfygiad, a bod a wnelo anallu, annifrifwch, a chroesdynnu arweinyddion y Blaid Chwigaidd beth yn ychwaneg ag ef; ond bwriad y blaid honno i roddi Ymreolaeth i Iwerddon ac i ddadsefydlu'r Eglwys yng Nghymru a barodd i'r Saeson ymgynddeiriogi yn ei herbyn. Torïaid hyd i fêr eu hesgyrn ydyw corff mawr y genedl Seisnig mewn materion cenhedlig, ac y mae'n ddiau fod y darllenydd wedi sylwi mai yn Lloegr ac yn y rhannau mwyaf Seisnig o'r gwledydd Celtig y cafodd yr Undebwyr fwyafrif mawr. Yr oedd Chamberlain yn Rhyddfrydol hyd at fod yn eithafol tra oedd ei blaid yn ymfoddloni ar ddeddfu i ddosbarthiadau trwy'r deyrnas, ond pan osiodd ei blaid ddeddfu i genhedloedd, sef i'r Gwyddelod a'r Cymry, ar wahân i'r Saeson, fe droes y gŵr o Birmingham yn Dori rhonc. Ac y mae Chamberlain