Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w gelynion ymhob parth o'r byd fod ei chymdogion agosaf mor anfoddog a gwrthryfelgar fel na allai hi ddim ymddiried iddynt ar adegau enbyd. Ofn ac nid cariad a barodd iddi ryddfreinio'r Pabyddion a dadsefydlu'r Eglwys yn Iwerddon; act ofn yn unig a bair iddi eto roddi ymlywodraeth i'r cenhedloedd sydd yn ddarostyngedig iddi. Os darfu iddi, trwy ofn, ildio cymaint i un genedl yn yr amser a fu, pa faint mwy, tybed, a ildia hi i dair yn yr amser a fydd? Lle da i Arglwydd Salsbri sefyll yn warsyth yn y fan y crymodd Duc Wellington.

Ysywaeth neu ysywell, y mae'r ymryson rhwng dosbarth a dosbarth wedi myned erbyn hyn yn ymryson rhwng cenedl a chenedl; a'r Saeson ynghyd â Cheltiaid Seisnigedig sydd wedi mynnu i hynny fod. Na sonier mwyach am Chwigiaid Cymru a Thorïaid Cymru; sonier yn unig am y Cymry a'r Gwrth-Gymry. Y mae'r Cymry yn lluosocach o lawer na'r Chwigiaid, ac fe ellir disgwyl i Gymry ymladd yn erbyn y gelyn cyffredin yn fwy calonnog o lawer nag y buont yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Rhaid addef bod ymgeiswyr y Saeson a'r Cymry Seisnigedig yng Nghymru wedi cynhyrfu mwy o deimlad o blaid Undebaeth nag a gynhyrfodd ymgeiswyr y Cymry yn ei erbyn, ac y mae'n hawdd canfod yr achos. Nid oedd gan ymgeiswyr y Cymry