Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sy'n dywedyd nad gloew mo'r afon honno y mae ei dyfroedd yn chwyddo'n sydyn. "Llaw y diwyd a gyfoethoga"; ond ymgyfoethogi'n arafaidd naturiol y mae ef, ac os bydd yn dduwiol yn gystal ag yn ddiwyd, ni wna Duw byth ei felltithio â chymaint o gyfoeth ag a fo'n fagl iddo.

Mawr yw gallu'r llo aur! Trwy ei gymorth ef gall dyn gael bron unrhyw swydd a chwenycha, ond ysywaeth nid oes neb mor anghymwys â'r corrach i lenwi'r swyddau a gaffo; canys dyn yw ef na chymerodd hamdden erioed i drwsio'i ymennydd, ac i ysgubo'i galon.

Rhaid addef bod llawer, hyd yn oed o'r corachod hyn, yn rhoddi'n helaeth o'u gormodedd. Y mae eu rhoddion wrth eu barnu arnynt eu hunain yn werthfawr a chymeradwy; ond a ydynt hwy drwy'r cyfraniadau hyn yn gwneuthur iawn am y dylet— swyddau a esgeulusant, am y dull a gymerasant, a'r amser a dreuliasant i gasglu corff eu cyfoeth. Atebed eu cydwybod!

Clywais rai eglwysi gweiniaid yn gwynfydu na buasai ganddynt deuluoedd cyfoethog yn perthyn iddynt. Diolchwch lawer, meddaf i, am eich bod hebddynt. Byddech yn wannach nag ydych pe cyflawnid eich dymuniad. Ni ellwch ddychmygu creaduriaid mor gostus ydynt i'w cadw. Os ydynt