Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Da chwi, byddwch yn Gymreigaidd; cedwch nodweddion mwyaf rhagorol eich cenedl: cedwch eich iaith; byddwch yn syml fel eich tadau. Trwy wneuthur hyn, chwi a godwch ragfur a atalia lawer drwg rhag dyfod ar eich gwarthaf o Loegr. Y mae'r ysbryd gwasaidd a'r duedd ddynwaredol sydd ynoch yn eich gwneud yn wiail ystwyth yn llaw'r diafol. Ef a ddywed wrthych, "Y mae gwŷr dysgedig yn Lloegr yn anffyddwyr; byddwch chwithau'n anffyddwyr, ac felly fe'ch cyfrifir yn ddysgedig. Defodaeth sydd yn y ffasiwn yn addoldai Lloegr. A fyddwch chwi yn olaf i ddilyn y ffasiwn? Y mae'n arferiad gan y Saeson i gicio'u gwragedd: a ddylai fod awdurdod gwrywod Cymru yn llai? Pobl uniaith ac anwybodus yw'r Saeson; gan hynny, ai gweddaidd ynoch chwi, weision, yw bod yn fwy dysgedig na'ch arglwyddi? Os mynnwch ladd cenfigen y Saeson tuag atoch, ymfoddlonwch ar wybod tipyn o'r iaith Saesneg yn unig; neu yn hytrach, byddwch heb yr un iaith, fel y Dic Sion Dafyddion. Gwnewch y tro, hyd yn oed felly, yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i'ch gorchfygwyr. Y mae'n rhaid i mi addef bod gennych chwi yng Nghymru un ddefod genhedlol na fynnwn er dim i chwi ei bwrw ymaith. Cyfeirio yr wyf yn awr at eich dull gweddus o garu. Rhaid i mi gael gan y Saeson fabwysiadu'r dull hwn,