Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trevethick yn ddigyfrwng? Gadewch iddo dyfu tipyn cyn ei anrhydeddu â ffonnod. Hwyrach hefyd, ei fod yn myned i bregethu at yr Anglo-Welsh Presbyterians, a gwyddoch cystal â minnau nad oes odid neb o'r sect honno'n alluog i ddarllen a gweddïo yn Saesneg. Felly, ped analluogid y pregethwr hwn i fyned i'w gyhoeddiad, byddai gorfod ar y Presbyteriaid, naill ai myned allan heb addoli, neu ynteu fyned i wrando ar un yn pregethu yn eu hiaith eu hunain; a byddai'r pechod diwethaf yn fwy na'r cyntaf." A wyddoch chwi rywbeth am Benmaenmawr?" meddwn wrtho. "Na wn i," meddai yntau. "Felly," meddwn, "ni ddylech farnu eu bod hwy yno mor anhyddysg yn yr iaith Saesneg ag yw'r Anglo-Welsh Presbyterians mewn lleoedd eraill." "Felly, ni a'u cyfrifwn hwy yno yn eithriad," ebe fy nghyfaill. "Wrth reswm (meddwn innau)—na lefarwn ond am a wyddom."

Gan i mi gyffwrdd fel hyn â'r achosion Seisnig, gallaf sylwi mai gwaseidd-dra cenedlaethol a osododd sail y rhai hyn, ac mai rhodres rhai o'n cydwladwyr a gododd y muriau. Os digwydd i fethdalwr ac anturiwr, a golchwraig ddyfod o Loegr i ardal Gymreig, O! y fath gyffro a bâr hynny drwy'r gwersyll Methodistaidd! Heb ymofyn o gwbl a yw'r cyfryw bobl yn bwriadu trigo yn yr ardal, neu a oes