Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un geiriau, mai Cristionogaeth a hen iaith ein tadau a ddylai fod yn brif bynciau addysg yn ysgolion y plant; am mai Cristionogaeth a phriod iaith ydyw sylfaen diwylliad, a'r agoriad i bob gwybodaeth arall. Fe'n haddysgwyd ni'n weddol dda mewn Cristionogaeth yn yr Ysgol Sul ac ar yr aelwyd, ac yno fe'n dysgwyd i ddarllen hefyd, ond ni chawsom ddim cyfleustra i astudio'r Gymraeg yn yr Ysgol Sul nac mewn un ysgol arall, ac y mae'n sicr y byddwn byth ar ein colled o achos hynny. Fe gefais i ddwy fantais na chafodd y rhan fwyaf ohonoch chwi mo'u cyffelyb. Fe'm magwyd i mewn tre lle 'r oedd y Parchedig William Roberts yn pregethu bob mis mewn Cymraeg na chlywid mo'i gystal o enau un pregethwr arall, ac fe'm magwyd i mewn amser pan nad oedd gorfod ar neb i fynd i Ysgol y Bwrdd, os oedd Ysgol Fwrdd yn bod. Yr ydys erbyn hyn yn addef bod y sistem addysg a luniwyd gan farsiandwyr uniaith o fath Forster yn anfuddiol hyd yn oed i'r Saeson eu hunain; ond i'r Cymry y mae hi'n waeth nag anfuddiol, ac am hynny y mae plant y blynyddoedd hyn, er eu bod yn fwy gwybodus, eto'n llai deallus o lawer na'r plant a fyddai'n cydchwarae â mi. Pe troid yr ysgolion elfennol a wnaed i Seisnigo plant y Cymry yn ysgolion i'w diwyllio, sef yw