Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfer geiriau mor anghydweddol â'r Gymraeg fel y rhaid eu hitaligo wrth eu hysgrifennu a'u hargraffu yn lladd urddas pregeth; ac er nad oes i'r hyn sydd urddasol ddylanwad mor amlwg ar y cyffredin â'r hyn sydd heb fod felly, eto y mae iddo ddylanwad tecach ac iachusach o lawer. I gadw'r urddas hwn ac i gael ar eraill y dylanwad goruchel sydd ynglŷn ag ef, y mae'n rhaid i'ch iaith fod yn hytrach yn henaidd nag yn ffasiynol: yn debycach i iaith y Beibl nag i iaith newyddiadur. Diau fod iaith gymysg, sitrachog, yn fwy effeithiol nag iaith bur i beri digrifwch; ac am y rheswm hwnnw y dylech chwithau ei bwrw allan. Ond o ddiogi yn unig y mae'r rhan fwyaf yn arfer y cyfryw iaith. Yn lle meddwl mor annibynnol wrth ddarparu pregeth Gymraeg â phe na baent yn gwybod ar y pryd ddim ond Cymraeg, ceisio atgofio a throsglwyddo y maent i'r Gymraeg yr hyn a ddarllenasant mewn iaith arall, a hynny heb gymorth geiriadur na gramadeg; ac os na thrawant wrth air heb ei geisio, hwy a gwynant fod y Gymraeg yn dlawd, ac a gymerant air o'r iaith a'r llyfr y cawsant eu syniadau ynddynt. Fel rheol, Cymry tlawd eu meddwl sy'n cael y Gymraeg yn dlawd. Odid byth y bydd eisiau gair nac ymadrodd ar y neb a astudiodd yr iaith yn ddigon da i allu meddwl