Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adwy gennych am ei fod yn anghynefin, a'r gair gwneuthur argyfwng am ei fod yn garbwl, nac arferwch y gair Groeg crisis sy'n gyfystyr, na'r ffurf Seisnigaidd creisis; ond fel y tynnwyd is o paralysis yn y ffurf Gymraeg parlys, felly tynnwch chwithau is o crisis, gan ei wneuthur a'i seinio yn cris fel y gwna'r Ffrancwyr. Trwy hynny fe fydd y gair yn fwy dealladwy, am fod ei gorff yn cadw'i lun a'i sain gyntefig; heblaw ei bod yn haws ei dreiglo'n rheolaidd, peth a ddylid ei ystyried bob amser wrth ddwyn i'r iaith air estronol.[1] Yr un modd y dylid gwneud hefo analysis, synthesis, phenomenon, phosphorus, ac estroneiriau eraill, os bernir nad yw'r geiriau Cymraeg pur yn ddigon neilltuol eu hystyr. Am lawer o'r geiriau perthynol i gelf a gwyddor, y mae'r rhai Cymraeg mor fyrion, mor benodol eu hystyr, ac mor ddealladwy, â'r rhai estronol. Pa achos sydd am y ffurf Seisnigaidd anatomy neu'r ffurf Gymreigaidd anatomiaeth, a chennym ninnau'r gair Cymraeg difyniaeth neu difynneg. Gymaint gwell ymhob ystyr ydyw hwn na'r gair Ellmyneg Zergliederungswissenschaft! Ac eto i gyd, y mae'r Ellmyn er ys talm bellach

  1. Y mae iaith gymysg fel y Saesneg yn peidio â bod yn iaith. resymegol, ac yn un fanteisiol i ddisgyblu'r meddwl, am nad yw un gair yn awgrymu gair arall perthnasol. Er enghraifft, pwy allai ddyfalu bod a wnelo naval â ship?—E. ap I.