Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pymtheng mlynedd mor hynod iddynt hwy ag yr ymddengys John Rhys, Silvan Evans, a Michael Jones, yn awr i ninnau. Er fy mod wedi traethu mwy am eiriau nag am ymadroddion, eto gwybydder bod purdeb ymadrodd yn bwysicach o lawer yn fy ngolwg i na phurdeb geiriau.

Rhag i burdeb fyned yn bureindeb—yn purism— dylem gofio, yn y lle nesaf, fod LLYFNDER hefyd yn rhinwedd ar iaith. Rhaid addef bod Cymraeg llyfr, pa mor dda bynnag y bo, yn anodd i'w ddarllen, am ei fod gymaint mwy clogyrnog na Chymraeg llafar. Fel y mae dŵr yn caboli rhai cerrig ac yn tyllu rhai eraill, felly y mae tafodau cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn llyfnu rhai geiriau, ac ysywaeth yn eu llygru hefyd. Y mae geiriau yn ymgaboli yn ôl deddfau cyffredinol, ac yn ymlygru oherwydd mympwyon neilltuol. Fe ddylai pregethwr ymgadw rhag llygriadau iaith, eithr fe ddylai barchu pob cyfnewidiad a wnaed arni yn ôl deddf. Am hynny ni ddylai mo'i llefaru fel y mae argraffwyr yn gweled yn dda ei hargraffu; yn hytrach dilyned y bobl ymhob peth y maent yn cytuno ynddo ar hyd yr oesoedd. Er enghraifft, y mae'r cyfuniad nt yn gas nid yn unig gan dafodau'r Cymry, ond hefyd gan dafodau'r Llydawiaid, yr Italiaid, y Sbaeniaid, a'r Ffrancwyr; ac o