Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagenw fe ellid meddwl mai ei dagrau ei hun a ddarfu i Olwen eu sychu.

Yr wyf yn cyfeirio'ch sylw at y pethau sychion hyn am ei bod yn bwysig i sgrifennwr, ac yn enwedig i siaradwr, arfer iaith y gall gwrandawr ei deall yn rhwydd ac yn ebrwydd, ac nid ei dyfalu. Nid yw hyn yn anghyson â'r peth a awgrymais i o'r blaen, sef bod iaith ambell un yn aneglur i'r cyffredin yn unig am ei bod yn anghynefin, a'r iaith yn anghynefin am fod y pethau yr ymdrinir â hwy yn anghynefin. Y gwrandawyr ac nid y siaradwyr a ddylid eu beio am hyn.

Yn ddiwethaf, nac anghofiwch BRIODOLDEB NATURIOLDEB, canys hebddynt hwy ni bydd iaith nac arddull neb yn dda. . . .

Swm cwbl a ddywedwyd yw hyn: Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch hynny yn dda. Na foddlonwch i wneud dim yn wael hyd yn oed os bydd gwaith gwael yn dwyn ichwi gymaint o glod ac elw â gwaith gwych. Y gwych yn unig a fydd byw; am hynny, ceisiwch yn hytrach anllygredigaeth na gogoniant ac anrhydedd presennol. Gwnewch eich pregethau'n gyfryw y bydd yn wiw gan ddynion eu darllen ymhen oesoedd ar ôl eich marw; canys wrth ymgyfaddasu i'r oesau a ddêl, chwi a'ch gwnewch eich hunain yn bregeth-