Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Marw, adgyfodi mewn mawredd,
Mewn i hwn mae ini hedd;
Mae wedi esgyn fynu,
Mae'n swcwr, congcweriwr cu,
Mae fe'n wrol eiriolwr,
'Mhlaid Seion dirion dŵr.

Codir yn awr bigion o hymnau bore John Hughes.

ER gofid byd a thrallod

HYMN

1 ER gofid byd a thrallod,
Ac amryw gawod gas,
Mae etto wir gysuron
I etifeddion gras;
I'r anial y nef a wlawia
Wir fara i Israel Duw,
Daw gloyw win puredig
I'r etholedig ryw.

2. Ni waeth beth fo'r byd a'u bierlau,
A'u holl deganau mân,
Hwy fyddant oll yn ulw,
Maent wedi ei cadw i dân;
Na fydded imi chwenych
Un gwrthddrych ond fy Nuw,
Mae ef yn gyflawn ddigon
O foddion imi fyw.

3. A gwnaed y byd ei waetha,
Ag eitha uffern gas,
Mae cadwedigaeth wrol
O rad ryfeddol ras;
Ni cheiff cnawd a llygredigaeth
Mo'r oruchafiaeth chwaith,
Ceir gweled y pererinion
Ar dirion ben y daith.