Tudalen:Gwaith Alun.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lle addas y lluyddwr
Rhufon, oedd yn union wr;
Un crefyddol, dduwiol ddawn,
Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn;
Iachawdwr, a braich ydoedd,
Ac anadl ei genedl oedd;
I'w ardal deg, ateg oedd,
Llywiawdwr ei llu ydoedd;
Dau noddwr duwinyddiaeth,
Arfolli, noddi a wnaeth;
Eu siarad, am rad yr oedd,
A mesurau'r amseroedd;
Gwael greifion y goelgrefydd,
Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;
A bro a'i hedd i barhau,
Uwch annedwydd och'neidiau;
Y duwiol hyfrydol fron
Ddiddenid â'u 'mddiddanion;
Rhufon er hynny'n rhyfedd,
Oedd o ddirgel isel wedd;
Son am loes sy'n aml isod,
A chael rhan uwchlaw y rhod,
Wnae'i fron der, yn nyfnder nod,
Chwyddo o ebwch ddiwybod;
Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,
A ddeifiodd rhyw ddu ofid;
A dygai'r llef y deigr llaith
I'r golwg, 'nawr ac eilwaith.
'Roedd gwaelod y trallod trwch
I wyr Gallia'n ddirgelwch;
Hwy sylwent mai isel-wan
A dwl, oedd ei briod lân;
Beth fu'r anferth ryferthwy
Ni wyddent—ni holent hwy.