Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni theimlais unwaith erioed ofid am y cam a gymerais y pryd hwnnw. Ac yr wyf yn credu fy mod wedi gwneyd mwy o les, a chael mwy o gysur, a llai o ofid nag a gawswn pe buaswn wedi aros yng ngwasanaeth yr enwad parchus ymysg yr hwn y dygwyd fi i fyny, ac i'r hwn y byddaf byth yn ddyledus.

IX. DECHREU PREGETHU.

Yr oedd lle bychan yn agos i ben Pont Menai, yn sir Gaernarfon, lle yr arferai nifer o aelodau perthynol i eglwys Ebenezer, Bangor, gyfarfod; a deuai rhai o aelodau Siloh, Porth Dinorwig, yno hefyd. Henglawdd y gelwid ef. Tŷ bychan, cyffredin, llawr pridd, a llawer a ddirmygwyd arno; ond cafodd llawer o'r saint wledd yno. Chwiorydd oedd yno gan mwyaf, ond deuai rhai brodyr o Fangor i'w cynorthwyo, ac weithiau deuai rhai o bregethwyr Bangor yno i bregethu, ac weithiau, yn yr wythnos, deuai Dr. Jones ei hun yno. Merch ieuanc o'r enw Jane Williams—merch yr Antelope, tafarn gerilaw—oedd prif gefn yr achos bychan, ac yr oedd ganddi am dano fawr ofal calon; a hi, ar ol hynny, fu y prif offeryn i gael capel Beulah, oblegid yr Henglawdd oedd gwreiddyn yr achos llewyrchus sydd yno.

Un nos lau ym mis Awst, 1839, dywedodd Dr. Jones wrthyf fod yn rhaid i mi fyned i Henglawdd y nos Sabboth canlynol i bregethu, ac yn ddinag ufuddheais. Daeth nifer o frodyr o Fangor gyda mi. Pregethais oddiar y geiriau yn Salm xciii. 1,-"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, Efe a wisgodd ardderchawgrwydd, gwisgodd yr Arglwydd