Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1641, mae'n nodi fod yno o gylch 1660, uwch law ugain o gynulleidfaoedd wedi eu casglu, a bod yn rhai o honynt 200 o aelodau, eraill 300, ac yn rhai 4 neu 500 o aelodau.[1]

Culni Charles Edwards.

P. Pwy gynorthwyodd i argraffu y Beibl bryd hynny?

T. Mae Dr. Llewelyn yn nodi i'r argraffiad hwn ddyfod allan yn 1654, a bod Mr. Charles Edwards, yn "Hanes y Ffydd," yn dywedyd mai chwe' mil oedd o rifedi yn yr argraffiad, ond nad yw Mr. Edwards yn son un gair, trwy bwy y daeth hwn allan.[2] Nid oedd Mr. Edwards ddim am roi gair da i Mr. V. Powel ac eraill o'r amser hyn, ond nid wyf fi yn ameu nad Mr. Powel a fu flaenaf yn y gwaith hwnnw, fel pethau eraill, dros y Cymry yn y blynyddau hynny. Yr wyf yn credu fod Mr. Cradock ac eraill yn cynorthwyo. Eto yr oedd yr argrafflad hwn yn wallus ac yn feius iawn, fel y nodir yn y blaen.

Clod Vavasour Powel.

P. Mae'n debyg fod Mr. Powel yn ddefnyddiol iawn i Gymru.

T. Yr wyf fi yn meddwl na bu un dyn erioed yn fwy defnyddiol i'r Cymry yn achos eu heneidiau, er fod llawer eraill wedi bod yn dra defnyddiol. [3]

P. Mae'n debyg nad oedd fawr o duedd i

  1. Brief Narrative.
  2. "Historical Account," P. 40. &c.
  3. Yng Nghofrestr Mr. Moses Williams nodir fod llyfr bychan Cymraeg o waith Mr. V. Powel wedi ei argraffu yn 1653. a'i argraffu drachefn yn 1677. Enw'r llyfr oedd Canwyll Crist."