Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

T. Yr oedd Mr. V. Powel yn fyw, yn dioddef, ac yn adnabod Cymru yn dda yr amser hynny; ac efe a ysgrifennodd yr hanes canlynol yn 1661, gan hynny nid wyf fi yn ameu ei gwirionedd. Mae fe'n nodi wneyd cam ag amryw ugeiniau yng Nghymru ym mis Mai a Mehefin, 1660. Yr oedd hyn yn union ar ol dyfod y brenin i dîr. A'r cam oedd, eu rhoi i garchar a'u cadw yno yn ddiachos, ond yn unig dangos y gallai yr erlidwyr wneyd yr hyn a fynnent.

Wedi hyn, ebe Mr. Powel, bu gorthrymder tra blin, yn enwedig yn rhai siroedd, lle y llysgwyd rhai dynion gwirionaid a heddychol allan o'u gwelyau, heh berchi na rhyw nag oed, ond eu gyrru, rai o honynt, ar eu traed ugain o filltiroedd i'r carchar; ac yn gorfod arnynt, yngwres yr hâf, gyd redeg A meirch y milwyr,[1] nes pothellu eu tracd, a hwythau yn barod i gwympo; eto eu ffonnodio a'u curo yn y blaen yr oeddid. Eraill yn sir Feirionydd, megis pe buasent anifeiliaid, a yrrwyd i ffaldau neu bitffalau'r plwyfau, lle cedwid hwy amryw oriau, a'u gelynion yn y cyfamser yn yfed cwrw yn y tafarn; ac yn peri i'r bobl ddiniwaid dalu drostynt hwy, heb gael dim i'w yfed eu hunain. Wedi hynny eu dwyn i lan y môr, a'u gadael hwy yno yn y nos, mewn enbeidrwydd i gael eu llyncu fyny gan y môr, ac yn dywedyd yn gableddus, mai ci ag oedd gyda hwy oedd yr ysbryd a'u harweiniodd hwy y ffordd honno. Eraill a roddwyd i garchar, fel y gwelai'r erlidwyr yn dda, ac a gadwyd yno amryw fisoedd ; ac er hynny cymerwyd a gwerthwyd eu da a'u defaid, uwchlaw chwech cant o rif. Eraill. pan y gelwyd hwy ir Eisteddleoedd Cwarterol,[2] yn gorfod cerdded mewn cadwyni (heirn ond odid) yn erbyn y gyfraith. Eraill wedi cyfarfod yn Ilonydd, fel y gwnaethent dros amryw flynyddoedd i addoli Duw, ac adeiladu eu gilydd, a fwriwyd i garchar. heb gymmaint a'u holi, na dangos achos pa ham, yn groes i gyfreithiau y wlad hon a gwledydd eraill. Yr oedd llid had y sarph gymaint yn erbyn had y wraig, er i'r brenin weled yn dda ganiatau rhydd-did Crisnogol dros ryw amser, trwy ei gyhoeddiad ei hun;[3] eto y sabboth cyntaf wedi derbyn cyhoeddiad y brenin, darfu i swyddogion un dref lusgo a

  1. Troopers.
  2. Quarter Sessions.
  3. Proclamation.