Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llythyr Mr. S. Hughes yn nechreu llyfr y Ficar, yr hwn a argraffodd ef yn 1672. Trwy'r llythyr y mae fe'n cyflwyno'r llyfr i'r parchedig Ddr. William Thomas, Deon Caerwrangon, Mr. Hugh Edwards o Langadog, yn sir Gaerfyrddin, Mr. David Thomas o Fargam, Mr. Samuel Jones, o Langynwyd (sef Mr Samuel Jones o Frynllywa ch a enwyd uchod), a Mr. W. Lloyd[1] o St Petrox, sir Benfro, oll yn weinidogion. Yno y maen nodi fod y gwyr da hyn wedi bod yn gymwyna sgar iawn i'r Cymry yn achos eu heneidiau, a bod y wlad yu rhwymedig iddynt hwy, a boneddigion

  1. Bu gwr o'r enw hwn yn enwog iawn yn yr amser hynny. ac yn dra llafurus dros y Cymry mewn rhyw bethau, tua diwedd yr oes ddiweddaf. Dywedir ei eni ef ymhlith y Saeson. Mab ydoedd i weinidog o Eglwys Loegr. Odid nad Cymro oedd ei dad. Dewiswyd y mab yn bregethwr i'r brenin yn 1666. Efe a gymerodd y gradd o Athraw, neu Ddoctor Difinyddiaeth yn 1667; gwnaed ef yn Ddeon Bangor yn 1672: ac yn Esgob Llanelwy yn 1680. Yr oedd ef yn un o'r Esgobion a fu yn Nhwr Llundain yn garcharorion am aros i fyny dros rydd-did y wlad yn erbyn Pabyddiaeth yn 1687. Mae Mr. Thomas Jones yn dywedyd i ynghylch 3.000 o eiriau gael eu casglu trwy orchymyn yr esgob hwn, gan rai o weinidogion ei esgobaeth ef, mewn bwriad i'w gosod yn y Geirlyfr Cymraeg a Saesneg a ddaeth allan yn 1688. Ond daethant yn rhy ddiweddar i fod yn y llyfr hwnnw, fel y nodir yn y ddalen ddiweddaf o hono. Bu Dr. William Lloyd hefyd yn dra chynnorthwyol i ddwyn Beibl mawr y Llannoedd trwy'r argraff-wasg yn 1690, yn llyfr trefnus a hardd, o herwydd hynny gelwir ef weithiau Beibl yr Esgob Lloyd." Dywedir mai hwn yw'r argraffiad diweddaf o'r Beibl mawr Cymraeg, a bod Mynegai'r Beibl ynddo, ac amryw Ysgrythyrau ar ymyl y ddalen o gasgliad y gwr hwn. Yn Saisneg y casglodd ef Fynegai'r Beibl, cyfieithwyd hwy i'r Gymraeg, Yr oedd ef yn wr deallus yn hanesion y Brutaniaid, fel y dengys ei waith. Yn 1692 symudwyd ef i esgobaeth Litchfield a Coventry; ac oddiyno í Gaer-wrangon, lle bu ef farw yn 1717, yn 90 oed. Noorthouck's Historical and Classical Dictionary," on L, Dr. Llewelyn's "Historical Account,' pp. 35, 52.