Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fy mrawd, a wyt ti'n cofio'r aml noson
Is goleu'r ser y buom ni ein dau,
Ar ol o'r ysgol ddyfod adre'n gyson,
Yn rhoi tro ar yr wyn ac yn mwynhau
Cydrhyngom mor ddiniwed ein breuddwydion
Am wynfyd y dyfodol, (nid ei wae
Can's nid oedd eto fustl yn ein cwpan,
A chennym dad a mam ag aelwyd gyfan?)

O ddyddiau dedwydd! megis adar mwynion
Yn dyfod o wlad bell, a hardd a chu
Ydyw i'm henaid i eu per adgofion-
Ónd tros ddiffaethwch erchyll ar bob tu
Yr hedant tuag ataf,-tros dor calon
Dirdynnol tad,-tros hiraeth dwfn a du
Fy mam, a'i hangau wedyn, a thros flwyddi
O boen i mi, a thristwch a thrueni!

Ond dyma'r clychau deg yn mynd, ymorol
Raid bellach am obennydd; cul yn wir
Fy ngwely, ond i mi nid anymunol,
Caf ynddo synfyfyrio'n hoff a hir
Am aml gyfaill cu, a châr mynwesol,
Ac am fy nheulu anwyl, ac am dir
Fy ngenedigaeth, nes o synfyfyrio,
Ymollwng drwy borth cwsg am danynt i freuddwydio.

"Nos da," fy mrawd, ergadael gwlad fy nhadau
Am ddieithr dir y deheu, ar fy ffo
Rhag tynged, ac yn fy chwim erlid angau,
Dy wyneb tirion eto yn fy ngho
Sydd fyth mor fyw, a'm henaid hyd ei seiliau
Sy'n wirach yn dy garu, fel mae'th fro
Yn trist bellhau, ac fel y trenga gobaith
O tan fy mron am gael dy weled eilwaith,