Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Su Mor Tragwyddoldeb. 109 Cul, cul, ac unig yw y glyn, Nid wyf ond clywed oddi draw Hoff ddadwrdd bywyd erbyn hyn, A rhu'r Iorddonen ddofn gerllaw; Tra'r geulan olaf dan fy nhraed Yn araf lithro, er fy mraw, I'r tonnau geirw sy'n ddibaid Yn ceulo dani. Cul, cul, ddiobaith yw y glyn,- Byth nid oes modd ei ddringo'n ol I'r iechyd a'r dedwyddwch fu'n Fy ngwarchod unwaith yn eu côl, Na syflyd cam o'r man yr wy' Yn hiraeth-syllu ar fy ol Am ennyd cyn anturio trwy Y dyfroedd oerion. Ond er mor gul a llwm y glyn, Ae er mor dywell yw y nen, Ac er mor serth y bryniau sy'n Ymddyrchu'n frigog uwch fy mhen I'm cau rhag bywyd ; eto mae Un seren anwyl, ddisglaer, wen O'r entrych gwywol, ar fy ngwae Yn tyner-ddwys dywynnu.