Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Per fyddai swn y gwlaw
Ar frigau'r coedydd,
Yn gwasgar ar bob llaw
Ei ddwys lawenydd;
A gwenau heulwen ha'
Pan doddent ymaith ia
F'anobaith enaid, tra
'N fachgen pymthengmlwydd.

Ond bellach nid yw swn
Y gwlaw, na thegwch
Yr haul, ond imi'n dwyn
Prudd feddylgarwch,—
Pob diwrnod, cyn glashau
Y gwellt uwch man y mae
Fy rhiaint, sy'n tristau
Eu hir dawelwch.

O anian gynt mor fad,
Paham ymnewid
Mor drylwyr, serch i'm tad
Fynd tan y gweryd?
Ai'th wyneb llariaidd di
Sydd bruddach nag y bu,
Ai ynte'm golwg i
D'w'llwyd gan ofid?

Tithau, O fywyd, pam
Y trodd yn dristyd
Dy harddwch, pan aeth mam
O gyrraedd blinfyd?
Pam nad yw fyth mor dlos
Ragolwg meithder oes,
Enwogrwydd, dysg a moes—
Bydol ddedwyddyd?