CAN SERCH.
Horas, Llyfr III., Cân 9.
MORGAN.
TRA'R oeddwn i eto yn anwyl i ti,
'Doedd neb ar y ddaear ddedwyddach na mi;
Tra am dy wddf claerwyn na phlethai un fraich
Mwy hoffus, 'doedd bywyd ddim eto yn faich;
Blodeuwn yn decach, yn falchach fy mhryd
Na theyrn gorfalch China, na dyn yn y byd.
GWEN.
A minnau, tra'r oeddwn yn anwyl i ti,
'Doedd neb ar y ddaear ddedwyddach na mi;
Tra nad oedd dy fynwes yn llosgi yn fwy
Am arall, O Morgan, na'th galon yn ddwy,
Blodeuwn yn decach, yn falchach fy mhryd,
Na Buddug ei hunan, na merch yn y byd.
MORGAN.
Ond Jane y Fronheulog sy'n awr wedi dwyn
Fy nghalon dan ormes drwy nerthoedd ei swyn;
Ei llais sydd fil mwynach na miwsig y nant,
A'i dwylaw sydd hefyd yn fedrus ar dant;
A throsti yn llawen disgynnwn i'r bedd.
Er cadw o'r nefoedd yn ddiogel ei gwedd.
GWEN.
Ac Edward y Gorllwyn, fy llencyn dinam,
Sy'n toddi'm bron innau â'i gariad fel fflam;
Nid oes ei serchocach, nid oes ei fwy mad,
Nid oes ei ragorach mewn tref nac mewn gwlad;
A throsto ef ddwywaith disgynnwn i'r bedd,
Er cadw o'r nefoedd yn ddiogel ei wedd.
MORGAN.
Ond beth pe dychwelai'r hen serch yn ei wres?
Ac uno'n calonnau â gefyn o bres?