Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefydlwyd yma, neu gôr o ysgolheigion, yn ddibynnol ar Fangor is y coed; a phan wnaethpwyd y gyflafan ar y mynachod yno yn 607, fe sefydlwyd y ban gôr, neu'r prif gôr yma.

E fu'r trwyth fferyllol yn hir yn sefyll. Pa beth ydoedd y wifren a ddodwyd i mewn ynddo, a' barodd o'r diwedd i'r ysbigau saethu allan ym mhob cyfeiriad, fel y gwelir heddyw?

Oddeutu 1770 oedd poblogaeth Bangor yn 1801, a llai na'r hanner yn preswylio yn y dref, debygir. Yr oedd corff y dref y pryd hwnnw cydrhwng y Vaynol Arms a'r Hen Fanc. Yn ol y Gwyliedydd, nid oedd poblogaeth y dref a'r plwyf yn 1721 nemor dros fil, a dywed eu bod bellach, sef yn 1832, yn fwy na phedair gwaith cymaint. Yr oedd poblogaeth y plwy yn 1841 yn 7232, a'r ddinas yn 4500. Erbyn 1921 dyma boblogaeth y fwrdeisdref yn 11,039. Yn 1801, tair blynedd cyn sefydlu eglwys yma gan y Methodistiaid, yr oedd poblogaeth y dref yn 1770, a nifer y tai yn 304. Yn rhywle oddeutu 700 ynte yr oedd y cynnydd yn ystod y 80 mlynedd cyn hynny. Wedi hynny, mae'r cynnydd wedi cyflymu yn ddirfawr. Bu agoriad y chwareli yn gymhelliad i'r cynnydd, ac yna agoriad Pont Frydain (1826), a'r ffordd haearn i Fangor yn 1847, a'r Bont Haearn yn 1850. Cludir y llechi o chwarel y Penrhyn i Aber Cegid, ychydig i'r dwyrain i'r dref. Fe sefydlwyd Methodistiaeth yma yn rhicyn yr amser a naddwyd iddi gan Ragluniaeth, a diau na bu hithau yn ol o adweithio ar yr amser yn ei gynnwrf cymdeithasol a chrefyddol.

Mae Syr Henry Lewis (t. 2) yn rhoi llun y ddinas yn adeg cychwyn Methodistiaeth i'r perwyl yma: Yr oedd y rhan fwyaf o'r dref rhwng y Faenol Arms a phen Stryd y ffynnon. Yr oedd ychydig fythynod yng Nglanadda ac ychydig dai yn Hirael. Ar y mapiau gwelir Plas yr Esgob yn eglur a Phenrallt, a rhyw dŷ yma ac acw yng nghyfeiriad Hirael, megis Tan y graig, lle lletyai'r Canoniaid, a Bryn eryr, tŷ is-athro Ysgol y Friars. Yr oedd tai yn Lôn y popty ac yng Nglanrafon. Tai bychain, isel braidd i gyd. Fe safai'r tai ar yr ochr ddeheuol i'r Stryd Fawr ychydig yn uwch na'r heol, a'r rhai gyferbyn ychydig yn is. Rhaid esgyn gris neu ddau i'r Red Lion, y Goat a'r Virgin, a'r hen dai i gyd ar yr un ochr. Rhaid disgyn i'r tai yn ymyl y fynedfa i Sant Paul's, ac i'r hen dai a safai yn ymyl capel y Pabyddion, a'r tai oedd lle saif masnachdy W. Hughes a'i fab, ac eraill. Adeiladwyd Bangor ar lethr y bryn.