Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd Abergynolwyn, neu y Cwrt, fel y gelwid ef y pryd hwnw. Ychydig yn flaenorol ymwelsid ag ysgolion y cylch, ac yn yr adroddiad am yr ysgol hon, dywedid mai golwg adfeiliad a dirywiad a gawsid arni, a hyny am nad oedd blaenor (arolygwr) ynddi, i edrych ar ei hol. Yn y cyfarfod chwech wythnosol y rhoddasid yr adroddiad crybwylledig, deisyfwyd ar Richard Jones (Ceunant) i ymgymeryd a'r gwaith fel blaenor yr ysgol, oblegid yr oedd tystiolaeth wedi ei chael ei fod ef yn gymeradwy gan yr ysgol yn yr amser a aethai heibio. "Gobaith y cyfarfod hwn oedd iddo gael ei osod yn flaenor, ac y bydd iddo gymeryd y swydd, fel y gallo y Cyfarfod Chwechwythnosol ddibynu am gyfrifon o oruchwyliaeth yr ysgol." Dywedir yn Nghofiant William Hugh, ddarfod i'r pregethwr ffyddlon hwn, oddeutu yr adeg yma, roddi bywyd yn yr Ysgol Sabbothol yn Abergynolwyn, pan yr ydoedd bron a darfod yn y lle. Yn yr adroddiad o ymweliad a'r ysgolion y pryd hwn, hefyd, crybwyllir fod personau wedi eu penodi "i gynorthwyo yr athrawon i gael trefn yn ysgolion Pennal a Thowyn i geisio gosod rhyw rai yn olygwyr neu yn flaenoriaid ynddynt, a hyny mor fuan ag y byddo yn bosibi, beth bynag cyn y Cyfarfod Chwechwythnosol nesaf." Rhoddir cipolwg i ni fel hyn ar y modd y dygid pethau ymlaen gyda'r Ysgol Sabbothol yn y blynyddoedd cyntaf ar ol ei dechreuad. Dangosid llawer o fanylwch yn gystal a ffyddlondeb gan gefnogwyr cyntaf yr ysgol. Ond yr hyn sydd dipyn o syndod ydyw, ni chadwyd dim cyfrifon rheolaidd a threfnus o'r ysgolion hyd ar ol y Diwygiad yn 1860, o leiaf, nid oes dim cyfrifon ar gael ond a gafwyd yn ddamweiniol ymysg papyrau L. W. a J. J., Penyparc. Cofnodir a ganlyn yn un o'r Cyfarfodydd Daufisol cyntaf a gynhaliwyd,—"Nifer y penodau y derbyniasom gyfrif o honynt am y ddau fis hwn, 822; adnodau, 13,997. Yr oedd Towyn, Tynypwll, a'r Cwrt yn ol heb ddyfod a'u cyfrifon i mewn. Yr ysgol ddysgodd fwyaf o'r Beibl oedd Corris; o'r Hyfforddwr, Bryncrug. Personau a ddysgodd