Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/350

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddeutu 56 o bersonau, y rhai fu yn cystadlu mewn traethodau, adroddiadau, arholiadau, barddoniaeth a cherddoriaeth, heblaw nifer fawr o dystysgrifau a roddwyd am ddysgu allan. Ond at—dyniad mawr y diwrnod ydoedd Gwyl y Canmlwyddiant. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd, fel dyddiau goreu canol Mehefin. Mawr oedd disgwyliad y dref am weled digwyddiadau y dydd; y teimlad wedi cyfodi yn gyfatebol i'r parotoadau a wnaethid yn flaenorol, ac i'r sôn a gerddasai ymlaen llaw am y llawenydd oedd i lenwi calon pobl Cymru ar y fath amgylchiad dedwydd yn eu hanes. Yn foreu ar y dydd, dechreuodd yr ysgolion ddyfod i'r dref, dan ganu a chario eu banerau. Am ddau o'r gloch y prydnhawn, ymgyfarfu yr holl ysgolheigion,—oddeutu 1800 mewn nifer,—a ffurfiwyd yn orymdaith, pob ysgol yn cael ei blaenori gan ei baner ei hun: y gweinidogion a'r pregethwyr yn mlaenaf, yna yr ysgolion yn ol trefn y wyddor, a'r plant yn gyntaf ymhob ysgol. Aethpwyd ymlaen i'r cwr dwyreiniol i'r dref i ddechreu, ac yn ol ar hyd y dref i'r pen gorllewinol. Canwyd amryw donau yn ystod yr orymdaith. Rhoddai yr heol hir, trwy yr hon y teithiai yr orymdaith, ar hyd glân y môr, ynghyd â'r amrywiol droadau sydd yn y dref, fantais i gael golwg fawreddog arni, a sicr iawn ydyw nad â yr olygfa hardd y diwrnod hwnw ddim o gôf canoedd o ddeillaid yr Ysgol Sul tra byddont byw. Wedi gorymdeithio trwy y dref, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar y maes agored, o flaen y Corbet Arms, yn agos i orsaf y rheilffordd. Gosodwyd y gwageni oedd wedi dyfod a phlant yr ysgolion i'r wyl yn esgynlawr, ac yn lle i eistedd ynddynt, a chymerai y dorf ei lle yn gylch crwn o amgylch. Holwyddori, canu, traddodi anerchiadau pwrpasol i'r amgylchiad, a rhanu y tystysgrifau oedd gorchwyl hyfryd y cyfarfod hwn, yn ol y drefn, a chan y brodyr a nodwyd uchod. Cynhaliwyd cyfarfod yr hwyr yn y capel, yr hwn oedd wedi ei orlenwi gan wrandawyr. Yr oedd yr holl anerchiadau a draddodwyd yn y cyfarfod hwn yn rymus a gafaelgar, a'r