Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/435

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymneillduwyr fyned i addoli at eu pobl mewn lleoedd eraill, ond ei fod wedi gosod ei fryd ar gadw ei blwyf ei hun yn glir oddiwrthynt. A'r hyn sydd i'w weled mewn amgylchiadau o'r fath yn gyffredin, cafwyd allan fod llawer o'r anghydfod hwn yn cyfodi oddiwrth y ffaith fod llu o hustyngwyr a chynffonwyr yn Llanfachreth, yn barod ar bob adeg i gario chwedlau anwireddus i glustiau yr uchelwr. I brofi hyn adrodda yr un hanesydd, sef L. W., yr hanesyn a ganlyn, ac enwa hefyd yn ei ysgrifau y person y cyfeir ato,———— "Un tro, fe ddychwelodd adref (sef y boneddwr) yn annisgwyliadwy, pryd nad oedd neb yn y teulu yn disgwyl am dano. Y noson hono hefyd yr oedd pregeth yn y capel. Yr oedd y brif forwyn yn yr odfa, as eraill o'r is-wasanaethyddion, fel nad oedd neb wrth y tŷ o'i weinidogion i'w dderbyn, fel y byddid arferol. Ond yr oedd yno ryw un yn barod i'w cyhuddo, yr hwn a aeth at y boneddwr, a chyda thafod athrodgar a ddywedodd, "Maent hwy, Syr R—— wedi myned i'r bregeth," gan ddisgwyl, yn ddiameu, yr edychid yn uchel arno ef ei hun am ei ragoriaeth, ond yr ateb a gafodd yn ddiflas iawn oedd, O, nid oes ynot ti gymaint o ddvioni a hyny."—Methodistiaeth Cymru.

Yr oedd L. W., yr hwn a gasglodd yr hanes blaenorol, yn llygad-dyst o'r rhan fwyaf o lawer o'r amgylchiadau a gofnodwyd ganddo. Yr oedd Edward Foulk, Dolgellau, ei gymydog, hefyd yn fyw pan yr oedd yn ysgrifenu—yntau wedi gweled â'i lygaid a chlywed â'i glustiau yr holl hanes o'r cychwyn cyntaf, a thystion eraill lawer. Felly, fe gafwyd digon o sicrwydd am y ffeithiau a'r amgylchiadau.

Pan aeth L. W. i Lanfachreth y tro cyntaf, yn 1800, yr oedd yr ysgol ddyddiol, a moddion crefyddol yn cael eu cynal mewn darn o hen dy bychan, a gwael yr olwg arno, ar yr un llanerch yn hollol ag y saif y capel presenol arno. Ac, meddai ef ei hun, "Yr oedd yno yn rhywle o amgylch 30 wedi ymuno i arddel Iesu Grist, ac yr oedd rhwng y naill a'r llall oddeutu naw milldir o ffordd." Yr hyn a olyga ydyw fod naw milldir o bellder rhwng y