y capel yn cael ei helaethu. A buan drachefn, oherwydd cynydd cyflym y boblogaeth, y mae yn myned yn rhy fychan i'r gynulleidfa, ac mae yr eglwys yn gwylio ei chyfleusdra am le cyfaddas i adeiladu y drydedd waith, ac o'r diwedd yn llwyddo, ond ar delerau tra anffafriol, gyda dim ond 40 mlynedd o brydles. Yn ngwyneb yr anfantais hon, cymhellai y diweddar Barch. E. Morgan, y Dyffryn, yr eglwys i fyned ymlaen "trwy ffydd," ac felly gwnaed. Ac yn Nhachwedd, 1868, agorwyd y capel presenol. Yn y flwyddyn 1887, mae yr eglwys yn llwyddo i brynu y capel a'r tŷ yn freehold am 300p., a gair Mr. Morgan yn cael ei wirio, sef y byddai rhywbeth yn sicr o ddigwydd i beri i'r eglwys gael y capel yn feddiant. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd ysgoldy eang ynglyn â'r capel, yr hwn a agorwyd Mawrth, 1889. Y draul ynglyn â'r adeiladau sydd fel y canlyn:—
£ | ||
---|---|---|
Gwerth y capel cyntaf yn 1856 | — | 400 |
Yr helaethiad arno yn 1859 | — | 250 |
Y capel newydd yn 1868, gan gynwys y tŷ | — | 3,800 |
Capel Talywaenydd yn 1872 | — | 180 |
Pryniad y capel yn freehold yn 1887 | — | 300 |
Yr Ysgoldy Newydd yn 1889 | — | 700 |
£5630 |
Talwyd y ddyled trwy y moddion canlynol:—(1) Casglu yn fisol yn yr Ysgol Sabbothol; (2) Arian yr eisteddleoedd: (3) Y Gymdeithas Arianol. Pan adeiladwyd y capel presenol, yr oedd y swm o 1100p. wedi ei gasglu erbyn amser ei agoriad. O'r flwyddyn 1868 hyd ddiwedd 1878, casglwyd gan yr Ysgol Sabbothol 1806p., a derbyniwyd o arian yr eisteddleoedd 1112p. A threiglwyd y swm o oddeutu 9000p. trwy y Gymdeithas Arianol, mewn corff 12 mlynedd o amser, trwy yr hyn yr arbedwyd talu llogau.