Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyny i'r entrych, ac yno yn cwafrio am ennyd mor ddireol ag ystranciau barcutan bapur. Ceisio dod o hyd i'r cyweirnod y byddid yn ystod y troadau rhyfedd hyn, ac yna wedi ei gael dechreuai'r gynulleidfa ymuno. Ystumiau anaturiol Wmphra William ar ei wyneb yn debycach i ddyn yn crio nag i ddyn yn canu. Os byddai dieithriaid yno, Richard ieuanc yn gobeithio'r anwyl na cheid ddim seiat y noson honno, er mwyn i'r côr gael cyfle i ddal anrhydedd cerddorol y Waen i fyny yn eu golwg. Addefa Richard Jones na wyddai neb yn y Waen y pryd hwnnw cystal ag Wmphra William pa fodd i ddod o hyd i'r cyweirnod. Yna William Davies, gyda rhyw lais main, fel llais merch, ebe Dafydd Thomas. Yn 1860 y bu Wmphra William farw. Y pryd hwnnw y dewiswyd Pierce Williams, Morgan Jones a Moses Roberts: yr olaf yn absen y lleill. Yr adeg yma y dechreuwyd ymroi o ddifrif i ganiadaeth. Rhoes lliaws o wŷr ieuainc eu bryd ar hynny, fel y daeth canu y Waen yn y man yn enwog drwy Gymru. Pierce Williams, heb feddu ar ragoriaeth anarferol mewn llais, oedd sicr o'i nôd bob amser. Yn rhagori ar bawb a glywodd Mr. J. W. Thomas am dôn ar gyfer pob rhywogaeth o bennill roid allan, a rhoid allan y pryd hwnnw, weithiau, benillion na chlywsid o'r blaen, a phenillion go ddireol. Ond boed y pennill y peth y bo, byddai Pierce Williams yn gywir ddifeth gyda'r dôn. Enwir Thomas Jones Llys Elen ac Owen Griffith (Eryr Eryri) yn arbennig fel rhai a lafuriasant gyda chaniadaeth. Yr oedd Owen Griffith yn gyfansoddwr tonau, a rhoddai fynegiant ardderchog fel arweinydd i ambell bennill. Bu côr y Waen yn wasanaethgar iawn yng nghymanfaoedd yr ysgol Sul a dirwest ar un adeg, o dan ei arweiniad ef. Tuag 1878 y dygwyd yr offeryn i'r addoliad. Yr arweinydd ers 1890 ydyw Mr. J. W. Thomas. Y canu, bellach, o nodwedd uwchraddol, yn arbennig ar y prydiau hynny pan fo hwyliau'r arweinydd yn cael eu bolio allan gan yr awelon. Anibynwr ydoedd Richard Owen Pritchard, a ymfudodd i'r America rai blynyddoedd, hwyrach, yn ddiweddarach nag 1861. Bu iddo ef ddylanwad arbennig ar ganiadaeth yr ardal.

Yr hen bobl with holi profiad, ebe Pierce Williams, yn ceisio olrhain meddyliau a bwriadau'r galon. Rhoid cwestiwn go blentynaidd ar dro. Rhydd Pierce Williams fel engraifft,—"A fuaset ti yn leicio cael crefydd ?" Cododd un brawd ar ei draed yn y man, cerddodd at y sêt fawr, a gwnaeth ei apel at y blaenoriaid,