Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr ydym ni wedi cael cyfleusdra lawer o weith iau i'w glywed yn dyweud ei hanes yn ei gyflwr pechadurus; ac ymddangosai fel dyn yn teimlo o herwydd ei ddrygioni. On o'i wendidau penaf yw bod yn o lawdrwm ar ddynion sydd wedi byw yn well nag ef ar hyd eu hoes; os na fyddant yn cyd weled ag ef mwen pethau y mae dadl yn eu cylch. Y mae yn debyg ei fod ef yn rhy hen i ddiwygio llawer yn hyn; ond os ceir yr hyfrydwch o'i weled yn dal yn sobr ac yn grefyddol hyd ei fedd, maddeuir hyn iddo yn gystal a'i wendidau ereill . Derbyniodd anogaethau taerion lawer gwaith i ysgrifenu hanes ei fuchedd o'i febyd, a chydsyniodd yn ddiweddar. Bu ganddo wrthwynebiad yn hir i'r hen deitl ei ganlyn; ond gan mai enw ty ei dad, ac nid ei feddwdod a'i ddrygioni a barodd iddo gael ei alw yn Twm Capelulo, barnwyd mai gwell oedd iddo beidio diosg yr hen enw; oblegid hebddo byddai yn rhy anhawdd i ddyeithriaid wneud allan hanes pwy yw y llyfr.

Y mae yr hanes canlynol wedi ei ysgrifenu o' enau ef ei hun: a chan mai gwell fydd gan y darllenydd ei glywed ef na neb arall yn dyweud ei hanes, ymwrandawn arno ef.

CEFAIS fy ngeni a'm magu yn Llanrwst, Swydd Dinbych, lle trigai fy rhieni a'u perthynasau. Yr oedd fy nhad yn Ffeltiwr, ac yn un o brif gantorion y Llan, a fy mam yn bobwraig. Nid oeddynt hwy na'r gweddill o'm teulu yn hynod mewn cywreinrwydd celfyddydol, na daioni, na drygioni; — yr oedd atal dywedyd ar bob un o honom. Arferwn fyned i wrando i'r Llan, oherwydd nid oedd gan yr Ymneillduwyr un Capel yn y dref oddigerth rhyw dy fyddai gan y Methodistiaid