Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/512

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr achos am beth amser, ac mae yr undeb sirol yn para yn ffyddlon hyd yn bresenol i wneyd. Prydnhawn Sabboth, Mai 26ain, 1867, wedi cael anogaeth gan y cyfarfod chwarterol, a chydsyniad eglwys y Penrhyn, corpholwyd yma eglwys reolaidd gan Mr. E. Morris, pan y daeth wyth yn mlaen. i ymgorphori i fod yn eglwys, a dewiswyd dau o'r brodyr i fod yn ddiaconiaid, sef Morgan Evans, a John Jones, y rhai sydd yn gwasanaethu eu swydd gyda gofal a ffyddlondeb hyd heddyw. Cadwyd cyfarfod pregethu yn y lle mewn ffordd o agor yr ystafell, Ebrill 22ain a'r 23ain, sef pum' wythnos cyn sefydlu yr eglwys, pryd y cafwyd gwasanaeth Meistri E. Williams, Dinas; R. Ellis, Brithdir; T. Jones, Eisteddfa; J. Jones, Abermaw, a W. Ambrose, Porthmadog. Mae yr eglwys fechan hon wedi myned trwy gyfnewidiadau eisioes mewn symudiadau, a marwolaethau, a gwrthgiliadau, ond y mae yn rhifo pedwar-ar-ddeg o aelodau yn bresenol, (Mai, 1871,) a'r cyfan fel un gwr gyda'u gilydd yn cydymdrech yn mhlaid ffydd yr efengyl. Nid yw y gymydogaeth yn gynyddol hyd yn hyn, ac nid oes paganiaid yn byw yn yr ardal, ac felly nid yw y rhagolygon yn addawol i gynydd mawr yn fuan, ond mae yr ychydig sydd yn y lle yn dewis cydaddoli, ac y mae yma ddrws agored i'r Annibynwyr a arweinir i'r gymydogaeth o ardaloedd eraill.

BETHANIA, FFESTINIOG.

Nid ydyw plwyf Ffestiniog ond cymharol fychan o ran ei derfynau, a hyd yn ddiweddar nid oedd ond dinod yn mysg plwyfi y sir. Mae natur i'w gweled yma yn ei gwylltedd cyntefig, er fod celfyddyd wedi addurno y lle a lluaws o aneddau prydferth, y rhai a breswylir gan y gweithwyr sydd yn dymchwelyd y mynyddoedd o'u gwraidd. Yn nghof llawer sydd eto yn fyw, ac heb gyfrif eu hunain yn hen, nid oedd ond ychydig o dai llwyd, a chyffredin ddigon yr olwg arnynt, trwy yr holl blwyf, ac nid oedd gan y rhai a drigent ynddynt un dychymyg am gyfoeth y bryniau a'u cylchynent, ac ar hyd y rhai y gwylient eu defaid. Mae pentref Ffestiniog ar y ffordd o Faentwrog i'r Bala, tuag ugain milldir i'r gorllewin o'r lle olaf. Mae y lle a elwir Blaenau Ffestiniog, lle yr adeiladwyd y capel cyntaf gan yr Annibynwyr yma, mewn cesail rhwng moelydd noethlwm ar yr aswy wrth fyned i'r Bala, a hawdd deall ei fod cyn agoriad y cloddfeydd yn lle hollol ddiarffordd. Nid oedd ond un Annibynwr trwy yr holl blwyf bymtheng-mlynedd-a-deugain yn ol, nac un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma yn rheolaidd. Yr oedd un John Hughes, yr hwn a dderbyniasid yn aelod gan Dr. George Lewis yn Nghaernarfon, wedi symud i fyw i Cefnfaes, ac ymaelododd yn Mhenstryd; a bu Dr. Lewis yn pregethu rai troion yn ei dŷ, er na chynygiwyd sefydlu achos yma y pryd hwnw.[1] Ryw bryd yn y flwyddyn 1816, ceisiodd un William Hughes, Talygwaunydd, (Fronlas wedi hyny,) yr hwn oedd wedi ei dderbyn yn aelod yn Nolyddelen—gan Mr. David Roberts, Bangor—wedi hyny o Ddinbych—ddyfod i'w dŷ ef i gadw oedfa ar brydnhawn Sabboth, ac i fedyddio merch iddo. Cydsyniodd Mr. Roberts a'r gwahoddiad, a dyma gychwyniad yr Annibynwyr yn Mlaenau Ffestiniog. Yr oedd William

  1. Llythyr Mr. W. Edwards, Aberdare.