Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfodydd yn wythnosol—y naill i addysgu Cerddoriaeth, y llall i egwyddori mewn Duwinyddiaeth, a'r trydydd i addysgu Gramadeg. Cawn fod ugeiniau wedi enwogi eu hunain yn y gwyddorau uchod, yn unig trwy ei hy fforddiant a'i addysgiant ef. Ond i ni fyned yn mlaen, fe gafodd y gŵr da a gwir ddefnyddiol hwn ei gymeryd i ffordd yr holl ddaear yn y flwyddyn 1828, yn 37 mlwydd oed, a hynny trwy gael dyrnod marwol yn ei ben gan faen oddiwrth ergyd, yn Chwarel Cae-braich-y-Cafn. Cafodd yr achos yn y Carneddi golled fawr ar ei ôl yn ei holl rannau, gystal ag yn y canu.

Yn y flwyddyn 1834, sefydlwyd "Cymdeithas Cymreigyddion Bethesda" Dyma'r Gymdeithas gyntaf a sefydlwyd erioed yn y ddau blwyf hyn tuag at addysgu a meithrin llenyddiaeth. Yr ydym yn deall ei bod yn cael ei dwyn yn mlaen, gan mwyaf, o dan arolygiaeth ac arweiniad Gutyn Peris a Gwilym Peris. O'r Gymdeithas hon y tarddodd y gwŷr rhagorol hynny, Huw Tegai, Ogwen, Josephus Eryri, Callestr, Walter Griffith, Parch. Richard Jones (America yn bresennol), Gwilym Bethesda, yn nghyda llawer ereill y gallem eu henwi. Par haodd y Gymdeithas hon mewn cryn fri a llwyddiant am amryw flynyddau. O'r Gymdeithas hon y tarddodd "Eisteddfod Parc-y-moch," pryd y bu Huw Tegai yn fuddugol ar y Bryddest ar "Udgorn Duw." Y Beirniaid yn yr Eisteddfod hon oeddent Clwydfardd a Gwilym Caledfryn. Cynaliwyd yr Eisteddfod hon yn y flwydd yn 1837. Dyma'r adeg yr oedd y ddau blwyf hyn yn d'od i weld gwerth llenyddiaeth yn ei goleuni priodol. Yr ydym yn tueddu i feddwl fod mwy o ysbryd llenyddiaeth a diwylliad meddwl wedi disgyn ar drigolion cymydogaeth Tre'rgarth, tua deg ar ugain a deugain mlynedd yn ôl, nag un rhan o'r ddau blwyf