Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefydlu eglwysi, a gosod y bobl ar waith i ddysgu darllen y Bibl, a pha fodd i rodio a rhyngu bodd Duw. Mae llawer o Eglwysi cynulleidfaol y sir hono yn awr, o blaniad Stephen Hughes. Yr oedd yn bregethwr Efengylaidd, a bu yn foddion i droi llawer at yr Arglwydd.

Cyhoeddodd ef, a'i gyfaill, Mr. Gouge, lawer o lyfrau Cymraeg gwerthfawr, a gwasgarent hwy yn helaeth, gan eu rhoddi yn fynych am ddim, os byddai y bobl yn rhy dlawd i'w prynu. Gosodasant i fyny amryw ysgolion, yn nhrefi y Dywysogaeth, i ddysgu darllen y Bibl ac elfenau cyntaf gwybodaeth. Dywedir fod dri i bedwar cant o honynt wedi eu sefydlu yn Nghymru yn 1675, a bod tua dwy fil o blant tlodion yn derbyn addysg ynddynt. Dygai Mr. Hughes ei hun draul cant o honynt. Ac enillodd glod neillduol yn ei ymdrech lwyddianus i gael argraphiad cymhwys o'r Bibl at wasanaeth y werin yn cynwys wyth mil o gopiau. Dywedir mai trwy ddylanwad Hughes a Gouge y sefydlwyd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol gyntaf yn Llundain. Cyhoeddodd Hughes argraphiad o "Lyfr y Ficer," gyda rhagymadrodd o'i flaen. Yr oedd yn ddyn hael a diragfarn, ac yn cael