Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwnant gylch arall, ac un arall, nes llwyddo, nes i'w cwn a'u ceffylau flino a methu. Os methu wedi pob cynyg, nid oes dim i'w wneud ond troi adref gyda chylla gwag, ceffyl blin, a gwynebu teulu o fam a phlant, heb feallai damaid o ddim yn y tent. Feallai y delir dulog neu ddau, neu ysgyfarnog wrth fyned adref, neu ynte eir allan dranoeth gyda rhyw hen nag o geffyl i dreio am rywbeth, pob un drosto ei hun. Ond teg yw dweyd na oddefir i neb ddyoddef os bydd cig gan rywun. Dyna fywyd Indiaid.

Eu defodau.—Rhoddaf yma fraslun o dair defod yn eu plith ag sydd wybyddus i mi. Ystyrient fod merch yn dod i'w hoed pan yn 16 oed, hyny yw, y mae merch yn mysg yr Indiaid yn rhydd i briodi wedi pasio 16 oed. Ar ben ei blwydd yr adeg hon cedwir gwyl gan y perthynasau a'r cymydogion, ac weithiau, os bydd yn ferch i deulu enwog, bydd yr holl lwyth yn uno. Ar gyfer yr amgychiad yma bydd y fam wedi darparu, trwy ei llafur ei hun, amryw gwiltiau, wedi eu gwneud o wlân gwanacod, ac yn cynwys amryw liwiau. Ar ddydd yr wyl, pwythir amryw o'r rhai hyn yn nghyd fel ag i fod yn ddigon i wneud to ar babell (tent) fechan. Gosodir hon i fyny ychydig o'r neilldu i'r pabellau ereill. Gelwir y babell hon casa lindo. Dau air Ysbaenaeg yw y rhai hyn am dŷ tlws yn Gymraeg. Nid oes gan Indiaid Patagonia air yn eu hiaith am dŷ nac am fara, am nad oedd ganddynt dŷ na bara. Ac felly am lawer o bethau ereill; ac yna, yn ddiweddar wedi d'od i gyffyrddiad â'r pethau hyny yn mysg yr Ysbaeniaid, arferent yr enwau Ysbaenaeg am danynt. Ond i fyned yn ol at yr wyl. Wedi gosod y babell hon i fyny, yna gwisgant y ferch a phob peth goreu a feddant mewn dillad. Gwisgant hi hefyd â chadwyni, clust—dlysau, a modrwyau wedi eu gwneud o'r defnyddiau goreu yn eu meddiant, megys copr ac arian. Nid ydynt byth yn defnyddio aur. Y maent yn bur gywrain (rai o honynt) i weithio y pethau uchod o ddarnau o arian neu gopr. Wedi gwisgo ac addurno y ferch fel hyn, gosodant hi i eistedd ar glustog— au ei hunan yn y babell fechan, a gadewir un wyneb iddi yn agored; yna lleddir nifer o gesyg, ond bydd y nifer yn ateb i gyfoeth y teulu—weithiau dim ond un, pryd arall haner dwsin. Torir y rhai hyn i fyny yn