Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

megis meingciau neu risiau y cynvyd. Nid ydynt, yn wir, onid gwaelod y môr wedi ei ddyrchavu yn ei grynswth, nes bod yn vyrdd—dir uchel, eithr eilwaith, mewn manau, wedi ei gavnio a'i rychu yn nhreigl cyvnodau. Gan vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych, nid yw lleithder a thyviant yn mènu nemawr ar wedd y furviadau ar y copäau: eithr eglur vod rhyw dywalltiadau mawr o wlaw ar adegau yn rhwygo llethrau y paith meingciol hwn yn bantiau a havnau. Amrywia lled y gwregys peithiog hwn o 60 milldir, tua lled. 45.50 (cyver Kolwapi), i 150 mill., lled. 42° at Banau Beiddio. Ond torir ar draws ac ar hyd y paith meingciol priddol, gwaddodol hwn gan rimynau o greigiau celyd neu ronynog garw. Ar gyfiniau y Télsun mae pigyrnau llosgvalog amlwg, yn rhedeg gydag ymylon y paith uchel: tua chwr uchav dyfryn cyntav y Camwy (Chubut) mae y creigiau celyd, talpiog hyn yn rhedeg megys mur gyda'r avon Iámacan, ac yna ryw 50 milldir is i'r de a dorant ar draws, o ddwyrain i orllewin, yn gevnen o'r un creigiau moelion—heb vod yn uchel—nes dod yn agos i'r môr.

Cyvres o'r peithiau a'r creigiau a'r tomenau hyny yw y wlad ganol vawr hono, nes dod at yr agorva o ddyfryndir elwir Dyfryn yr Allorau, neu ar lavar gwlad Rhyd-yr-Indiaid" (lle mae gogwydd i dde-orllewin yn yr avon). Oddiyno ymlaen, i gyveiriad gorllewin, (am ryw 60 milldir eraill) lle yr ymgyvyd gris neu vainc arall uwch, ond yn vwy bryniog a chydiol vel cyvresi cadwenol eithr yn eu hymyl is-beithiau a sych-lynoedd (vel tuag 'Ania"). Ryw 50 milldir pellach yn yr un cyveiriad mae vel petai lanerchau ireiddiach, eithr uwch eto o lyvel y môr—yn ymestyn velly hyd at ymylon y gwregys tyvianus y cyveiriwyd ato.

Mae'n anobeithiol gallu cyvleu mewn darlun geiriau, amgyfrediad o nodweddion mor wahanol i ranbarthau cyfredin Ewrob. Y mae mor eang unfurv o ran rhyw weddau, tra'n amrywio'n ddirvawr o ran rhai neillduolion eraill, vel nas gellir cymhwyso ati yr un desgriviad cyfredinol, vel ag i'r meddwl ddelweddu iddo'i hun ryw syniad clir am y wlad. Ovnadwy, hwyrach, yw y gair addasav am y paith maith, mud: aruthr, evallai, gyvlea y syniad am chwyddion ac uchelion yr Andes yn eu hanverthedd. Nid difaith dywodog: ond difaith gerygog,—sych-bantiau cleiog neu varianog: anialedd o ddrain, a blewyn tuswog rhyngddynt, neu grug cwta mewn manau eraill. Ar rai o'r llethrau oddiar y peithiau, neu wrth odreu rhai eraill, ymddengys tarddiadau o ddwr gloyw—eilw y brodorion "llygaid dyvroedd"—ond lle bynag y byddant dangosir tyviant o vrwyn, neu hesg, neu borva las—yn ol grym y tarddiad. Mewn manau o'r paith hwn mae rhai o'r tarddiadau hyn yn groew, a rhai eraill yn helïaidd, gerllaw i'w gilydd. Mae math arall o'r tarddiadau croew hyn yn bwrlymu o'u cwr yma neu eu cwr arall yn ddysbeidiol, bob