Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y draul yn £1,500,000, a'r elw ar ol 'talu pob treuliau, yn rhoddi cyllid i'r Llywodraeth o 23⅓ y cant.

"Anialwch o dywod a chwerwyn (sage brush) oedd y Salt Lake Basin, Utah, pan sevydlodd y Mormoniaid yno ddwy vlynedd—ar—hugain yn ol; ond trwy ddyvriad a gwrteithiad y mae rhan vawr o'r dyfryn wedi ei wneud yn gyvartal o ran frwythlondeb, i diroedd brasav y Talaethau Dwyreiniol.

"Pan aeth y Mormoniaid yno gyntav, nid oedd coed na phrysgwydd yn tyvu lle mae Dinas y Llyn Halen. Trwy eu dyvriad efeithiol, addurnir y lle yn awr â niver mawr o goed locust a chotwm. Ceir y cyntav o'r had, a thrawsblenir y llall o'r mynyddoedd. Mae gan bob heol yn y ddinas ei frwd o ddwvr, a dyvrir pob gardd yn y ddinas yn rheolaidd dan gyvarwyddyd swyddogol."

"Yn ychwanegol at y sicrwydd am gnydau rheolaidd, y mae cynyrch tiroedd dyvredig yn vwy na chynyrch tiroedd eraill (trwy wlaw) o un ran o bedair i un ran o dair. Mewn hinsawdd dymherus y mae y cynhauav yn cael ei osod allan o gyraedd dylanwad y tymhorau.

"Nid yw tiroedd dyvredig byth yn rhedeg allan. Braseir hwynt yn awr yn rheolaidd gan waddodion. Mae y pwnc o iachusrwydd a moesoldeb wedi cael ei brovi yn voddhaol yn niwylliant ac adveriad llanerchau difrwyth yn India, lle mae pobloedd lluosog wedi cael eu dwyn o gyvlwr o drueni, a newyn a gwrthryvel, i sevyllva o iechyd, boddlonrwydd, a llwyddiant, trwy y cnydau toreithiog a gynyrchir gan Ddyvriad.

"Yn Italy, lle y cedwir covriviad, y mae cynydd y boblogaeth yn y parthau dyvredig yn 50 y cant yn vwy nag ydyw yn y parthau sydd yn dybynu ar y gwlaw. Gellir priodoli lluosogrwydd mawr y Chineaidi helaethrwydd eu cyvlenwadau o ddwvr.



Yn elvenol gellid dosranu Daeareg y Diriogaeth:—(1) Cadwen vawr yr Andes, megys asgwrn cevn; (2) Y gwaenydd godreuol wrth y rheiny, vuont dan waddodion a dylivion, ac a gavniwyd ac a rychwyd wedi eu codiad; (3) Y canolbarth bryniog, creigiog, toredig, gyda chymalau ac ymylon o'r paith; (4) Y peithiau eang, unfurv, wedi eu llivio a'u sgwrio yn gymoedd priddog a chleiog, a'u malurion yn crynhoi tua'r gwaelodion; (5) Creigiau llosgvalog (volcanic) gwahanedig yma ac acw drwy y furviad paith godent yn fyrnau byw ar adegau; (6) Yr arvordir vel dangoseg o'r gweithrediadau.

Wrth vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych a sevydlog ni raid dyvalu nemawr am y driniaeth vu ar y wlad. Gwres haul cryv mewn gwlad sych, a rhew miniog ar adegau, a rhuthr o