2.Ni fedda' i mewn nac o'r tu maes
Ond nerthol ras y Nef
Yn erbyn pob tymhestloedd llym,
A'r storom gadarn gref.
3.Cysurwch fi, afonydd pur,
Rhedegog ddyfroedd byw,
Sy'n tarddu o dan riniog cu
Sancteiddiaf dŷ fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
52[1] Duw yn Nodded.
M. C.
1.O! DDUW, ein nerth mewn oesoedd gynt,
Ein gobaith wyt o hyd;
Ein lloches rhag ystormus wynt,
A'n bythol gartref clyd.
2.Dan gysgod dy orseddfainc Di
Cawn drigo'n dawel byth;
Digonol yw dy fraich i ni;
Fe'n ceidw yn ddi-lyth.
3.Cyn trefnu'r bryniau uwch y lli,
Cyn llunio llwch y byd,
O dragwyddoldeb Duw wyt Ti,
Parhei yr un o hyd.
4.Yn d'olwg Di daw oesoedd maith
Fel hwyrddydd byr i ben;
Fel gwyliadwriaeth nos mae'u taith,
Cyn codi haul y nen.
5.Mae prysur lwythau'n daear ni,
A'u llafur oll ynghyd,
Yn myned heibio gyda'r lli
I fôr tragwyddol fyd.
- ↑ Emyn rhif 52, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930