3 O flaen y drugareddfa fawr
Yn trengi wrth dy draed i lawr,
Gwêl y pechadur duaf gaed
Yn griddfan am rinweddau'r gwaed.
William Williams, Pantycelyn
136[1] Cysgod y Graig.
M. H.
RHYW ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef—
Sydd imi'n lloches gadarn gref;
Fel uchel graig fy nghysgod fydd
Rhag marwol wres y poethlyd ddydd.
2 Yr hynod Graig, ein Iesu cu,
Sy'n llawer uwch na'r nefoedd fry;
O dano Ef y llecha'i'n glyd,
Ym mhob rhyw stormydd yn y byd.
3 Trawyd y Graig; mae ffrydiau hon
Yn oeri'r llosgfa dan fy mron;
Trawyd y Graig; a'i dyfroedd pur
Yw 'nghysur yn yr anial dir. DC
4 Yn holltau'r Graig fy nhrigfa fydd,
Drwy ryfedd faith dragwyddol ddydd;
Caf yma hyfryd wedd fy Nuw,
Disgleiriad ei berffeithrwydd gwiw.
David Charles (1762-1834)
137[2] Melys Cofio Iesu.
M. H.
1 PER fydd dy gofio, Iesu da,
A'r galon drist a lawenha;
Na'r mêl a'r mwynder o bob rhyw
Bod gyda Thi melysach yw.
2 Ni chenir cân bereiddiach ryw,
Nid mwynach dim a glywo clyw;
Melysach bryd ni wybydd dyn
Nag Iesu Unmab Duw ei Hun.