Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/177

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YR ARGLWYDD IESU GRIST 4 Gwrandewch, y nefoedd! ddaear, clyw! Dy feirwon eto a fydd byw ; Preswylwyr llwch marwolaeth drist, Deffrowch a chenwch-cododd Crist. 139 "Efe a ddichon yn gwbl iacháu." M. H. ¹DY enw Di, mor hynod yw, Hyfrydwch pur eneidiau byw; I wael bechadur dan ei bwn Mae cymorth yn yr enw hwn. 2 I bechaduriaid croeso gaed, Pan ddoent yn gleifion at dy draed; Trwy rasol eiriau, doniau Duw, Ai'r claf yn iach, a'r marw'n fyw. 3 Ac onid ydwyt eto'r un- Yn llawn o nefol ddawn i ddyn ? Ym mhob rhyw oes, dan loesau'r llawr, Mae rhinwedd yn dy enw mawr. 4 Dy addewidion sydd yr un, Wyt heddiw'n Feddyg euog ddyn ; Mae gennyt allu, Iesu mawr, Ac 'wyllys i'n iacháu yn awr. 5 O! gwêl ni'n nesu at dy ddôr, I gael iachâd, anfeidrol Iôr; Iachâ ni'n hollol o bob clwy', Fel na bo arnom archoll mwy. 139 E.RO. C. WESLEY, C. AN. Iechydwriaeth trwy'r Aberth. 1 140 YN rhad 2. 88. 888. 'R wy'n disgwyl rywbryd gael iachâd, Er mwyn yr aberth mawr a gaed; Dyrchafu'r gwaed a fydd fy ngwaith I oesoedd dirifedi'r gwlith, Os dof fi byth i ben fy nhaith. Cas. DE.