Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YR ARGLWYDD IESU GRIST 141 2 Hoeliwyd yr Aberth, Hoeliwyd yr Aberth, Iesu addfwynaf oedd fud ! 'R Hwn sy'n taenu'r nef fel llen, A ogwyddodd yno'i ben, I wneud cymod dros bechod y byd. C. D.CS. 143 1 Ceidwad Digonol. 558. D. POB seraff, pob sant, ров Hynafgwyr a phlant, Gogoniant a ddodant i Dduw, Fel tyrfa gytûn, Yn beraidd bob un, Am Geidwad cryf iddyn' yn fyw. 2 Efe yw fy hedd, Fy aberth a'm gwledd, A'm sail am drugaredd i gyd ; Fy nghysgod a'm cân, Mewn dŵr ac mewn tân, Gwnaed uffern ei hamcan o hyd. 3 Yn babell y bydd Rhag poethder y dydd, A chedyrn lifogydd y fall; Mewn cysgod mor dda, Holl uffern a'i phla, Er chwennych fy nifa, ni all. 144 Fi Genedigaeth Crist. 65. 65. D. 33 - 1. WELE yn dyfod, "WLlefai'r Meichiau gwiw; Atsain creigiau Salem, Dyfod y mae Duw ; E.J.