168[1] Brawd erbyn Dydd o Gledi
76. 76. D.
1 HOSANNA, Haleliwia,
Fe anwyd Brawd i ni;
Fe dalodd ein holl ddyled
Ar fynydd Calfari;
Hosanna, Haleliwia,
Brawd ffyddlon diwahân;
Brawd erbyn dydd o gledi,
Brawd yw mewn dŵr a thân.
2 Brawd annwyl sy'n ein cofio
Mewn oriau cyfyng caeth;
Brawd llawn o gydymdeimlad-
Ni chlywyd am ei fath;
Brawd cadarn yn y frwydyr,
Fe geidw'i frodyr gwan;
Yn dirion dan ei adain
Fe ddaw â'r llesg i'r lan.
Rhyddid a Maddeuant trwy Grist.
- David Williams, Llandeilo Fach
169[2] Rhyddid a Maddeuant trwy Grist
76. 76. D.
1 O! AM gael ffydd i edrych,
Gyda'r angylion fry,
I drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy:
Dwy natur mewn un Person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymysgu,
Yn eu perffeithrwydd hwy.
2 O! f'enaid, gwêl addasrwydd
Y Person rhyfedd hwn;
Dy fywyd mentra arno,
Ac arno rho dy bwn:
Mae'n ddyn i gydymdeimlo
A'th holl wendidau i gyd;
Mae'n Dduw i gario'r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.
Ann Griffiths