Ac yna y cymerth ei hudlath ac y tarawodd Gilfaethwy nes oedd yn garw. A mynnai y llall ddianc, ond nis gallai; tarawodd Math ef â'r un hudlath nes oedd yntau hefyd yn garw.
"Yn rhwymedigaeth i chwi, mi a wnaf i chwi gerdded ynghyd, ac yn un anian â'r gwylltfilod yr ydych yn eu rhith. A blwyddyn i heddyw dowch yma ataf fi." Ymhen y flwyddyn i'r undydd, clywai sŵn dan bared yr ystafell, a chyfarthfa cŵn y llys am ben y sŵn.
"Edrych," ebe yntau, "beth sydd allan."
Arglwydd," ebe un, "mi a edrychais, y mae yno ddau garw."
Ac ar hynny cyfodi wnaeth yntau, a dyfod allan. A gwelai'r ddau garw. Cododd yr hud oddiarnynt.
Bydd di faedd coed eleni," ebe fe wrth bob un ohonynt. Ac ar hynny eu taro â'r hudlath a wnaeth. "A'r anian a fo i'r moch coed, bydded i chwithau. A blwyddyn i heddyw byddwch yma dan y pared."
Ymhen y flwyddyn clywent gyfarthfa cŵn dan bared yr ystafell, a'r llys yn ymgynnull at ei gilydd. Ar hynny, cyfodi a wnaeth yntau, Math, a dyfod allan. A phan ddaeth allan, gwelodd ddau fochyn coed.
Byddwch fleiddiaid eleni," ebe ef.
Ac ar hynny taro â'r hudlath a wnaeth.
Ac anian yr anifeiliaid yr ydych yn eu rhith, boed i chwithau. A byddwch yma flwyddyn i'r dydd heddyw dan y pared hwn."
Yr undydd ymhen y flwyddyn, clywai ymgynnull a chyfarthfa cŵn dan bared yr ystafell. Cododd yntau allan, a gwelai ddau flaidd. Ac ar hynny tarawodd y ddau â'r hudlath hyd nes oeddynt yn eu cnawd eu hunain.
"Ha wyr," ebe ef, " os gwnaethoch gam i mi, digon y buoch dan eich pennyd, a chywilydd mawr a gawsoch.