Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"TI," ebe yntau, "goreu gennyf fi po gyntaf y caffwyf iawn ganddo."

Yna dygyfor Gwynedd a wnaethant, a chyrchu Ardudwy. Gwydion a gerddodd yn ei flaen, a chyrchu Mur Castell a wnaeth. Sef a wnaeth Blodeuwedd clywed eu bod yn dyfod; cymryd ei morynion gyda hi a chyrchu Fel y cosbwyd Bloeuwedd i'r mynydd, a thrwy afon Cynfael, a chyrchu llys a oedd ar y mynydd. Ac ni allent gerdded rhag ofn namyn drach eu cefn; a cherddasant heb wybod oni syrthiasant yn y llyn, a boddasant oll eithr Blodeuwedd ei hunan. Ac yna goddiweddodd Gwydion hithau, ac a ddywedodd wrthi,—

Ni laddaf di; mi a wnaf sydd waeth â thi; sef yw hynny, dy ollwng yn rhith aderyn. Ac o achos y cywilydd a wnaethost di i Lew Llaw Gyffes, na feiddia dithau ddangos dy wyneb liw dydd byth. A hynny rhag ofn yr holl adar. A bydd yn anian iddynt dy faeddu a'th amharchu y lle y'th gaffont. Ni cholli dy enw, namyn dy alw fyth,—Blodeuwedd."

Sef yw Blodeuwedd, dylluan yn iaith yr awr hon; ac o achos hynny y mae digaswch yr adar at y dylluan.

A gelwir eto y ddylluan yn Flodeuwedd.

Yntau Gronw Pebyr a gyrchodd Benllyn, ac oddiyno ymgenhadu a wnaeth. Sef cenadwri a anfonodd,— gofyn a wnaeth i Lew Llaw Gyffes a fynnai ai tir ai daear ai aur ai arian am y sarhad.

"Na chymeraf, i Dduw y dygaf fy nghyffes," ebe ef, a dyma y peth lleiaf a gymeraf ganddo,—myned ohono ef i'r lle yr oeddwn i pan y'm tarawyd â'r bar, a minnau i'r lle yr oedd yntau, a gadael i minnau ei daro ef â'r bar. A hynny yw y lleiaf peth a gymeraf ganddo."

Hynny a fynegwyd i Ronw Pebyr.