Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARI:
'Nhad! am eich plant . . .

GŴR:
Plant! y bronnau heisb a'r crothau segur
a fu'n rhifo fy nyddiau ac yn disgwyl y cnul
oedd i ganu llawenydd eich cyfle ar y cibau.
Caech chwilio cariadon crand fel eich hetiau,—
a neb o'r crandusion yn ffroeni eich loetran
tan y pyst-lampau, yn y corneli a'r lonydd,
ond prentisiaid carwriaeth am ddysgu'r grefft
a henwyr carwrus y lwynau crin.

Buoch farw ! Erthylwyd Glangors-fach o'ch crothau llygredig,
a'r llygredd ni phurir ym mhridd un bedd
sy'n rhodio bob gwylnos Fihangel.

MARI:
A heno mae gwylnos y meirwon denantiaid,
dwy chwaer a dau frawd y dryswyd eu tynged,
y dryswyd eu tynged yng Nglangors-fach,
yng Nglangors-fach a siglennydd eich dial.

MARI a SHANI:
Heno, mi ddônt yma i'r gegin, nôl yma,
i gecran-cweryla,—y pedwar,
Ifan ac Elen a Sal a Rhys—
yng ngwylnos Fihangel y meirw.
A ninnau yma, o'u blaen, ar eu hôl,
heb fynd oddi yma erioed, ni'n tri;
yma yr oeddem ni cyn iddyn nhw ddod,
amdanyn nhw'n darth i'w gyrru i'r bedd
heb orwedd ar wely'r pen-isa.

ELEN a SAL:
(Newidier lliwiau'r golau).
Heno, bentymor, nôl yma
i gecran-cweryla yng Nglangors-fach.
Fihangel erlidiol, gad inni bentymor a diwedd.
Rhy uchel yw'r rhent a rhy-hir yw'r les;—
gad inni fedd yn gyfannedd, a gorwedd.
Gostwng y rhent a diryma'r les,—
y cecran-cweryla am y gwyn-fan-draw,
y marw di-hedd a'r beddau a'n gwrthyd:
dyna'r rhent, dyna'r les wedi'r gwyn-fan-draw.